Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 4 Hydref 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:17 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Ann Jones (Cadeirydd) Peter Black Janet Finch-Saunders Mike Hedges Mark Isherwood Gwyn R Price Ken Skates Rhodri Glyn Thomas Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Sue Cohen, Gr ŵp Cyllideb Menywod Adele Baumgardt, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru Yr Athro Teresa Rees, Prifysgol Caerdydd Kate Bennett, Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Jamie Westcombe, Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Marc Wyn Jones (Clerc) Bethan Davies (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Leanne Hatcher (Dirprwy Glerc) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Rhys Iorwerth (Ymchwilydd) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins; nid oedd dirprwy.
2. Ymchwiliad i ystyriaethau cydraddoldeb yng nghyllideb Llywodraeth Cymru - Sesiwn dystiolaeth
Croesawodd y Cadeirydd Sue Cohen, aelod rheoli o bwyllgor rheoli Grŵp Cyllideb Menywod. Holodd yr Aelodau y tyst.
Cytunodd Sue Cohen anfon linc ar gyfer Strategaeth Kirklees at y Pwyllgor.
3. Ymchwiliad i ystyriaethau cydraddoldeb yng nghyllideb Llywodraeth Cymru - Sesiwn dystiolaeth
Croesawodd y Cadeirydd Adele Baumgardt, Cydgadeirydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru a’r Athro Teresa Rees o Brifysgol Caerdydd. Holodd yr Aelodau y tystion.
Cytunodd yr Athro Rees i ddarparu papurau ymchwil penodol ar yr enghreifftiau rhyngwladol y cyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod i’r Pwyllgor.
4. Ymchwiliad i ystyriaethau cydraddoldeb yng nghyllideb Llywodraeth Cymru - Sesiwn dystiolaeth
Croesawodd y Cadeirydd Kate Bennett a Jamie Westcombe o’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Holodd yr Aelodau y tystion.
5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Cytunwyd ar y cynnig.
6. Ymchwiliad i bolisi Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol - trafod y prif faterion
Cytunodd yr Aelodau y byddai hyn yn cael ei ystyried yng nghyfarfod yr wythnos nesaf.
7. Digwyddiad ymgysylltu - gwerthusiad
Cytunodd yr Aelodau bod y digwyddiad yn llwyddiant ac yn gyfle gwych i ymgysylltu â rhanddeiliaid. Cytunwyd y dylid cynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.
8. Memorandwm Cysyniad Deddfwriaethol - Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl 2012-2013
Ystyriodd y Pwyllgor ei agwedd at y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl 2012-2013.
9. Papurau i'w nodi
Nodwyd y papurau.
9.1 CELG(4)-21-12 - Papur 3 - Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru
9.2 CELG(4)-21-12 - Papur 4 - Gwybodaeth ychwanegol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
9.3 CELG(4)-21-12 - Papur 5 - Gwybodaeth gan Achub y Plant
9.4 CELG(4)-21-12 - Papur 6 - Gwybodaeth gan Chwarae Teg